ffwrdd â hwy i gyfeiriad y lleiaf o'r ddwy leuad. Pwy a afaelai ynddynt ond hen ddyn y lleuad, wedi dyfod o hyd iddynt ar ei ffordd o'r ddaear.
Ac ymlaen â hwy. Fel yr aent ymlaen âi'r lleuad fawr yn llai o hyd, ac yn oleuach, a'r lleuad fach yn fwy a thywyllach. O dipyn i beth gwelent y lleuad fach yn mwyhau nes mynd yn fyd. Deuai mynyddoedd a dyffrynnoedd a gwastadeddau mawrion i'r golwg.
Mynd yn ôl i'r ddaear yr yden ni," ebe Moses wrth Ddic, dan wenu. Ac ar unwaith ag ef, dywedai Dic, yntau, yr un peth, ond ni chlywai'r naill mo'r llall yn dywedyd dim.
Diau fod mynyddoedd, a dyffrynnoedd, a gwastadeddau mawrion yn y byd a ymagorai o'u blaenau. Eithr fel y dynesent gwelent nad yr hen ddaear annwyl a adawsant ydoedd,- nid oedd yno na môr, na llyn dwfr, nac afon; na phren, na blodeuyn, na gwelltyn; nac anifail, nac aderyn, na phryf,-dim ond anialwch diderfyn, sych, yn llawn cerryg a chreigiau moelion a hagr. Ac am sŵn, nid oedd na siw na miw yn unman.
Rhoddodd yr hen ddyn, wrth ddynesu at y byd newydd hwn, drithro fel colomen. A disgynasant ill tri yn esmwyth ar ganol gwastatir.
"Ymhle yr yden ni, Rhys Llwyd?" ebe'r ddau hogyn gyda'i gilydd. Eithr ni chlywent leisiau ei gilydd o gwbl. Er hynny, gwyddai'r dyn ar eu gwefusau pa beth a ofynnent, a gwnaeth yntau ei wefus ar ffurf y geiriau,—"Yn y lleuad."