Tudalen:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

lle ei groesawu pan ddeuai'n ôl, yn codi ei thrwyn arno a'i wawdio. Buasai hynny'n waeth nag aros ar hyd ei oes yn y lleuad, yn ffoi rhag cawodydd cerryg.

"Os fel ene mae hi arnoch chi," ebe'r dyn, "rydwi'n gweld bod yn rhaid i mi ddechre sbonio pethe ar unweth. Pan ewch chi i'r ddaear yn ôl mi welwch chi na bydd dim o'i le ar eich lleisie chi. Faswn i ddim am y byd, 'y mechgyn del i, yn gneud dim drwg i'ch lleisie chi, yn enwedig i lais Dic y Nicol"

Gwridodd Dic at fôn ei wallt, a dywedodd yn wyllt, "Nid Dic y Nicol ydi f'enw i, yr hen,—

"Rys Llwyd
Ar ei glwyd
Bron a marw
isio bwyd."

Dyma'r ffordd fwyaf llwyddiannus y medrai feddwl amdani i lasenwi'n ddifyfyr.

'Doeddwn i ddim yn meddwl dy ddigio di, Dic bach," ebe'r dyn yn dyner, "ond i fynd yn ôl at y pwnc. Pan oeddwn inne ar y ddaear 'roedd gen inne lais, ond rwan, fel y gwelwch chi, 'does gen i run. A 'does dim eisio i chi ddychrynu at achos y peth. Er na chlywch chi mohono i 'n siarad 'roeddech chi'n fy nghlywed i 'n iawn ar y ddaear, ac mi clywech fi eto rwan pe bawn ni a chithe yno. A wyddoch chi be sy'n gneud llais ?" Nid atebodd yr un ohonynt, ond awgrymodd Dic yn y man mai rhyw sŵn yn eich corn gwddf