mawr rhwng y lleuad a'r ddaear—mae digon o awyr, neu wynt, os mynnwch chi, i'w anadlu ar y ddaear, ond 'does dim tipyn o awyr yn y lleuad, neu 'dydw i ddim wedi cael hyd i ddim, beth bynnag, ac rydw i yma ers tro erbyn hyn. Mae ene un lle ag rydwi'n ame falle fod awyr ynddo, ond mae hi'n anodd mynd yno heb gwmni. Ac os mynnwch chi mi geisiwn fynd yno cyn bo hir. Ar y ddaear, fel y gwyddoch chi, mae awyr ymhobman,—o danoch chi, uwch eich penne, o'ch cwmpas chi, tumewn i chi,—'does dim lle heb awyr ar y ddaear. A'r awyr yma'n symud yn gyflym ydi'r gwynt, a'r awyr yma'n symud yn araf ydi'r awel." "Be ydi cysylltiad hynny â Llyn y Cae Isa?" ebe Dic.
"Wel," ebe'r dyn, "os tarwch chi'r awyr yma, rydech chi'n gneud tonne ynddo fo fel y tonne a wnaeth y cerryg ar y dŵr yn Llyn y Cae Isa. Ac y mae'r tonne yma'n teithio ar ôl ei gilydd am y cynta. Dydech chi ddim yn eu gweld nhw am na fedrwch chi weld gwynt. Mae nhw'n deyd na feder yr un creadur weld gwynt, ond mochyn, ac mai dene pam y bydd moch mor wyllt ar storm. Ac y mae Shonto'n deyd mai gweld pwff o wynt ddaru'r moch hynny yng ngwlad y Gadareniaid ers talwm pan redodd pob un ohonyn nhw dros y dibyn i'r môr yn hen fyd y ddaear."
"Be ŵyr Shonto am y stori honno?" ebe Dic, yn wên i gyd.