Tudalen:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"'Rargien fawr," ebe Moses, "ydech chi n deyd fod drym yn ein clustie ni? Clywed y 'gloch bach' yn ei chlust mae mam o hyd, ac rydw inne'n ei chlywed hi weithie. Mae mam yn clywed y gloch bach bob tro y bydd rhwfun. yn marw. Dene'r gloch bach yn 'y nghlust i,' medde mam pan fynnoch chi, ac ryden ni'n sicir o glywed cyn bo hir fod rhwfun wedi marw."

"Y gloch bach?" ebe'r dyn, chlywes i rioed am honno. Rhaid imi ofyn i Shonto eto rhag ofn mod i 'n methu. Fo ddeydodd y stori yma wrtha i pan ofynnes i iddo fo pam yr oedd gen i lais ar y ddaear a dim ar y lleuad. Ond rydwi braidd yn siwr mai 'drym' ddeydodd o. Ond hwyrach na ŵyr ynte ddim byd am y gloch bach. 'Does neb byth yn marw yn y lleuad a gwlad y Tylwyth Teg."

"A hwyrach ei fod o 'n deyd clwydde," ebe Dic, yn wên o glust i glust."

"Shonto'n deyd clwydde! Machgen annwyl i, paid ag awgrymu peth felly," ebe'r dyn, "ond i fynd yn ôl at y stori,—Wrth i'r tonne awyr yma daro ar y drym sy'n eich clustie chi, mae o 'n crynu, fel y bydd y croen sy ar ddrym Band y Llan, neu'r lastig a roddwch chi weithie ar draws twll rîl, i ganu efo fo, yn crynu, wrth i chi daro'r drym neu chwythu drwy dwll y rîl. A dene ydi pob sŵn—tonne awyr yn taro ar y peth bach yma y tumewn i'ch clustie chi, a hwnnw'n crynu,