VIII
TAN GWYLLT
DIWRNOD cyhyd â phythefnos, heb na glaw na gwynt, yr haul yn grasboeth uwchben, a chwithau heb ddim i'w wneuthur, ond chwarae, chwarae, o hyd,—oni fuasai'n ddifyr? At hynny, beth pe buasech wedi derbyn y gallu i neidio deuddeg llath a mwy ar dro,—medru neidio fel aderyn allan o gyrraedd pawb? A mwy na hynny, beth pedfai'ch tad neu'ch mam yn gweiddi ar eich ôl i fynd ar neges pan fyddech ar gychwyn i chwarae? neu gloch yr ysgol yn canu, a chwithau ym mhen pren crabas neu gnau, eto, chwi'n medru dywedyd na chlywsoch ddim oddiwrth yr un ohonynt yr galw, a dywedyd y gwir yn y fargen? Dyna'r byd yr oedd Dic a Moses ynddo yn y lleuad.
Nid oedd dim i'w wneuthur yno ond chwarae o'r bore gwyn tan nos, a'u diwrnod at hynny yn bythefnos o hyd. A mwy na hynny, nid oedd raid iddynt golli amser i fwyta. Cadwai'r afalau lleuad hwy'n fyw. A deuent ar draws rhyw chwarae newydd o hyd. Yr unig anfantais oedd ei bod yn llethol o boeth a rhaid oedd mynd i ryw ogof neu'i gilydd bob hyn a hyn i oeri. O bob chwarae, osgoi'r cerryg a lawiai ar y lleuad oedd y chwarae mwyaf diddorol a chynhyrfus. Cyn gynted ag y byddent wedi osgoi un, disgynnai'r