Tudalen:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu/90

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac ni chlywai neb ddim oddiwrtho yma. Yr oedd teimladau hiraethus am y ddaear yn ymgasglu yn ei fynwes ers tro, ond ei fod yn ceisio eu mygu. Fodd bynnag, yn y tywyllwch a'r distawrwydd ofnadwy hwn mentrodd feddwl yn rhydd am destunau ei hiraeth,—am ddringo coed, a rhedeg ôl cwnhingod, a physgota, a pheltio â chacimwci, a dringo tŵr yr Eglwys i ganu'r gloch ar gam amser, a chant a mil o bethau eraill,—a thorrodd allan i wylo o eigion ei galon. A dyna fel y teithient,—y dyn ar y blaen yn arwain Dic gerfydd ei law, a Dic yn arwain Moses, yntau, gerfydd ei law, y dyn yn teimlo braidd yn ofnus, Moses yn brudd ac mewn arswyd, a Dic yn wylo megis na wylodd erioed yn debyg o'r blaen, a dim un ohonynt yn gwybod dim am deimladau'r llall. Yr oedd yn ddistaw fel y bedd, drwy'r cwbl, a chyn dywylled â'r fagddu, a hwythau'n mynd ymlaen, ac ymlaen, ac yn ddyfnach a dyfnach o hyd, a'r dyn yn ofni bob munud y byddai'n ddiwedd y byd arnynt, a Dic yn wylo fel un heb obaith. Ac ni allai beidio, er bod ei ddagrau'n rhewi ei lygaid yn dynn, ac yntau'n methu â gollwng dwylo'r hen ddyn a Moses i'w symud ymaith. Yn hollol sydyn dyna sŵn, y sŵn cyntaf a glywsant er pan oeddynt ar y lleuad. Sŵn ochenaid riddfanllyd ydoedd, yn atseinio dros bob man, ac yn tarddu o ddyfnder calon rhywun oedd â'i galon ar hollti'n ddwy. Ochenaid Dic ydoedd, a dychrynodd gymaint