II. LANARK NEWYDD ETO.
[William Allen—Ei wrthwynebiad i gynllun addysg Lanark Newydd—Cytundebau newydd—Anfoddlonrwydd Owen—Ymneilltuad Owen—New Lanark ar ol dyddiau Owen.]
DECHREUODD Robert Owen ollwng ei afael yn New Lanark gyda chychwyniad ei yrfa fel apostol y Gymdeithas newydd. Eithr nid hyn fu'r prif achos i Owen ymadael yn derfynol â Lanark Newydd. Yr oedd un o'i bartneriaid yn un o'r Crynwyr—sef Allen,—yn perthyn i'r sect fanylaf o honynt; ac anghydfod âg Allen a barodd i Owen ymryddhau o'r gwaith yn Lanark Newydd. chofio pwy ydoedd ei bartneriaid, syn ydyw ddarfod i'r undeb rhyngddynt barhau cyhyd. Dywed Owen am Allen, fod gwrychoedd trwchus o ragfarn Crynwraidd yn amgylchu ei feddwl; ystyriai gynllun addysg Lancaster yn berffaith, a bod hwnnw'n afiach yn y ffydd a geisiai wella arno. Dadleuai fod yr ymarferiadau milwrol yn anysgrythyrol, y gerddoriaeth yn oferedd, a'r ddawns yn ysgymunbeth. Ni ddarfu i Allen, modd bynnag, wneuthur