Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Cofnodid y ffaith hon fel prawf o'r amgylchedd iachus y gweithid ynddi. Teg ydyw dweyd gyda golwg ar hyn fod cynnydd mawr wedi cymeryd lle ym mhobman yn y nifer o fenywod weithiai yn y melinoedd, a lleihad cyfatebol yn nifer y dynion. Nid oedd Lanark Newydd ar ei phen ei hun yn hyn.
Yn 1854, canmola Owen y goruchwyliwr a'i dilynodd yn Lanark Newydd, a dywed nad aeth y pentref yn hollol yn sefydliad i wneyd arian yn unig.