IV. Y SYMUDIAD CYDWEITHREDOL
[Dechreuad Cydweithrediad—Hull—Woolwich, Devonport Yr "Economist "—Cymdeithas yr Argraffwyr—Cymdeithas Gydweithredol Llundain 1825—" Co—operative Magazine and Monthly Herald "—Y symudiad yn myned rhagddoY gymdeithas ganolog 1827Brighton—Dr. King a'r " Co—operator "Ystadegau—" The Associate "—Y Gymdeithas Brydeinig er lledaenu gwybodaeth gydweithiol 1829—Y Symudiad yn 1832—Dylanwad Owen ar y Symudiad—Yn darlithio yn y Mechanics' Institute—Testynau y darlithiau—Y "Crisis"—Y cynhadleddauSyniad Robert Owen am y symudiad—Y cyfnod arwrol—Difaterwch gwleidyddol.]
PAN y dychwelodd Robert Owen i Loegr o'r Amerig, cafodd fod ei syniadau wedi dwyn ffrwyth mewn ffordd anisgwyliadwy. Yn ei adroddiadau yn 1817—1823, anogasai weithwyr ac ereill i wneyd eu holl gyfalaf yn un gronfa, ac i ethol pwyllgor i roddi'r cyfalaf ar waith fel ag i sefydlu pentrefi ar ei gynllun ef. Ac o'r awgrym hwn y daeth cydweithrediad mewn masnach yn un o sefydliadau llwyddiannus yr oes hon.