Araf ydoedd tyfiant y symudiad yn y dyddiau hyn. Yn 1824 cyfarfyddai nifer o weithwyr mewn ystafell yn Burton Crescent, Llundain, i ymdrin ar bynciau mawr cyd—ymdrech a chymdeithas. Gwahoddid y cyhoedd yn gyffredinol i'r cyfarfodydd hyn. Yn fuan symudwyd i le mwy canolog—i ystafell yn Chancery Lane. Dywed John Stuart Mill[1] iddo fod yn dadleu yn frwd a'r gymdeithas yn y lle hwn. O Chancery Lane symudwyd i Red Lion Square.
Dyma, mae'n debyg, gychwyniad Cym. deithas Gydweithiol Llundain (1825). Cynhaliwyd cyfarfodydd wythnosol am yspaid, ac yn fuan daethpwyd i gysylltiad â chymdeithasau cydweithredol yn y wlad, a dechreuwyd werthu yn Llundain y nwyddau a gynhyrchid gan y cymdeithasau hynny.
Yn Ionawr, 1826, ymddanghosodd y Co-operative Magazine and Monthly Herald, a bu fyw am bedair blynedd mewn gwahanol ffurfiau. Rhydd y cylchgrawn hwn esiamplau rhyfedd o'r sylw delid i bethau hollol amherthynasol gan gydweithredwyr ym mhrif oesoedd y sym-
- ↑ Autobiography, ii., 113.