Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Robert Owen, Apostol Llafur, Cyf II.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cydweithrediad. Yn Gorffennaf, 1829, sefydlwyd y Gymdeithas Brydeinig er lledaenu gwybodaeth ynghylch y symudiad. Erbyn y Chwefrol dilynol, yr oedd 308 o aelodau yn perthyn iddi. Ei hamcan ydoedd (1) cyhoeddi traethodau, (2) anfon allan genhadon, (3) adeiladu ystafelloedd i draddodi darlithiau ynddynt, (4) i sefydlu rhyw fath o gyfnewidfa cydrhwng y gwahanol gymdeithasau, a (5) i amddiffyn y cymdeithasau yn wyneb ymosodiadau unrhyw elyn.[1] Cyfarfyddai'r gymdeithas yn chwarterol.

Erbyn yr Hydref fe ddywedir fod cynifer a phedwar cant o gymdeithasau wedi eu sefydlu. Y mae'n debyg mai y rheswm dros y gwahaniaeth rhwng y cyfrif hwn ac eiddo Dr. King ydyw nad oedd y diweddaf yn cynnwys y cymdeithasau cynhyrchiol, eithr y cymdeithasau trafnidiol (distributive) yn unig. Yr oedd llawer o gymdeithasau cynhyrchiol yn bod hefyd. Ym Manceinion codwyd melin i drin a llifo velveteen, dan yr enw—" The Owenian." Yr oedd chwech ugain o weithwyr yn y felin hon, a'r oll ohonynt yn bartneriaid ynddi.

  1. Co-op. Magazine, iv., 27, 48.