eu hunain, ac yn rhoddi mantais i'r cyfoethog i ormesu'r tlawd. Y feddyginiaeth angenrheidiol ydoedd difodi arian bathedig a threfnu rhyw fath o gylchrediad fyddai'n cynrychioli yn deg y llafur a ddefnyddiwyd i wneuthur unrhyw nwydd. Y mae pob cyfoeth wedi ei gynyrchu gan lafur. Pa safon gwell, o gyfoeth, felly, all fod na llafur?
Ym Mehefin, 1832, cyhoeddodd Owen yn y "Crisis" ei fod yn bwriadu ffurfio Cymdeithas i ddwyn ymlaen gyfnewidfa o nwyddau, ar sail llafur am lafur cyfartal. Nid oedd y syniad o osod safon gwerth diysgog a safadwy yn newydd. Yr oedd Diocletian yn 301 A.D., wedi gosod i lawr ddeddf yn rhinwedd yr hon yr oedd pris pob peth,—dilladau, bwydydd, a thal llafur i fod yr un ymhob rhan o'r Ymerhodraeth Rufeinig.[1] Bu y ddeddf hon mewn gweithrediad hyd 305. Yn y Canol Oesoedd, yr oedd y cyfreithwyr eglwysig wedi gosod i lawr yr un egwyddor. Yn y Corpus Juris Canonici" yr oedd usuriaeth yn cynnwys, nid yn unig gofyn a derbyn llog uchel, ond pob llog—ac hyd
- ↑ Edictum Diocletiani de pretiis rerum venalium.