Tudalen:Saith o Farwnadau.pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac yn myn'd â thrysor durfin,
I ymddifaid y Gorllewin,
Aur ac arian wrth y cannoedd,
Trwy ryw ludded blin a gasglodd,
Ac y'nghoedydd anial Georgia,
Cododd balas i'r Gorucha',
Lle i'r gwan i gael rhan tlodion amddifaid,
Breintiau 'fengyl bur fendigaid,
Fel i'r Cymry, Sais, a'r Indiaid.

Dysg ac ymborth, gwisg yn gryno,
Gafodd torf o dlodion yno,
Rhwng y coedydd caent yn odiaeth
Glywed geiriau'r iechydwriaeth;
Fe fydd miloedd yn bendithio
Enw WHITFIELD fythoedd yno:
Fe oedd dad goreu ga'd, gynta' dosturiodd,
Wrth drueiniaid tywyll ydoedd
Heb oleuni pur y nefoedd.

Hampshire Newydd, ti fu'r ola'
Gwelodd ef cyn myn'd i wledda,
Ac i Newbury daeth angelion
I roi gwys i'r genad ffyddlon;
Yno cauodd y pibellau
Sydd yn dwyn y gwynt i'r ffroenau,
Yno daeth marwol saeth angau dychrynllyd,
Ac a'i dygodd ef yn hyfryd
I ardaloedd tir y bywyd.

Enw WHITFIELD oedd yn gyson
Gynt yn goglais drylliog galon,
Heddyw'n hollol sy'n dolurio
Feddwl fod e' yn yr amdo:
Welir mo'r credadyn hwnw
Nes adg'odiad mawr y meirw;
Mae tan sel, doed a ddel, fyth ni ddihunir,
Nes o'r diwedd yr agorir
Holl lochesau dyfnion natur.

Fe ry' 'Newbury y pryd hyny
Gorff yr addfwyn sant i fynu: