Tudalen:Saith o Farwnadau.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dyma'r olaf dros y tonau
Megys hithau yn y fan.

Gras yw'r cwbl sy mewn arfaeth,
Gras yw'r cwbl yn y nef,
Gras yw'r cwbl ar y ddaear,
O'i weithredoedd amryw ef;
'Nawr fe faddeu ef i'r lleidr
Chwarddodd pan yn myn'd i'r pren,
Rai mynudau 'nol cael maddeu
Fe ga'dd ganu uwch y nen.

Nid yw ugain mlwydd o weithio
Bwysau ddim yn nheyrnas nef,
Y gwaith, y gras, y dawn, a'r bywyd,
Ydoedd oll ei eiddo ef;
Eto 'nol y gwaith coronir,
Er mai haeddiant marwol glwy',
Can's pob gweithred fach a wnelir
Yma a'u canlynant hwy.

Fe chwanegir eich gogoniant,
Os yw'ch temtasiynau'n fawr;
Mwy eich awydd, pan y'ch temtir,
I roi ffarwel glân i'r llawr:
Gweithiwch, gweithiwch, na rwgnechwch,
Daear eto yw eich lle;
Cerwch Iesu, cenwch hymnau,
Mae'ch caniadau yn y ne'.

GOF.—Dywed i mi, os yw bosib',
Ronyn am dy artre'n awr,
Am y swyddau, am y graddau,
Ac am ddoniau'r nefoedd fawr;
Pa fath iaith sy gan angelion,
Ai ymddyddan megys dyn?
Neu wrth amnaid, neu wrth awgrym,
Rho'nt eu meddwl, dywed p'un?

Beth yw'r gwahan rhwng sant a seraph
Yn ngwasanaeth pur y nef?
Onid angel ydyw enaid
Hyd nes adgyfodir ef?