Tudalen:Saith o Farwnadau.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

'R enwau hyny a ganmolaist
Mewn pwlpudau ar y llawr;
Abra'm, Isaac, Jacob wrol,
Fu mewn d'rysni, fu mewn drain,
Mari Magdalen, Manasseh,
A rhyw filoedd gyda rhai'n?

AT.—Yr hyn wy'n wel'd, 'r hyn wy'n deimlo,
A'r hyn heddyw wy'n fwynhau,
Cadw'th le, a bydd yn ddystaw,
'Chydig ddyddiau tithau gai;
Nid yw'n perthyn i ti ofyn
Swyddau seraphim a'u gwaith,
Na pha fodd mae'r nef yn gwybod
Holl ddirgelion daear chwaith.

'Rwy'n adnabod, mewn ffordd ryfedd,
Lu o ddynion aeth o 'mlaen;
Nid wrth lais, ac nid wrth lygad,
Nid wrth liwiau fel o'r blaen:
Natur sy yma yn dysgu 'nabod,
Nid y natur sy'n y byd,
Ond rhyw instinct fel o wybod,
Ro'w'd i bawb sydd yma 'gyd.

GOF.—Dywed i mi, gwn y gwyddost,
P'un ai'r haulwen yn y nef
Sydd yn troi oddeutu'r ddaear,
Ynte hi o'i ddeutu ef?
P'un ai Ptolomy, neu Newton,
Neu Copernicus oedd wir?
P'un a dd'rysodd mewn rhesymau?
P'un a gafodd oleu clir?

AT.—Nid yw doniau mawrion Newton
O fawr gyfrif yn y nef;
Mwy yw'r lleiaf wers o'r Bibl
Na'i holl lyfrau enwog ef:
Dwyn amseroedd, d'rysu deall,
Oeru calon, llanw pen,
Y mae'n fynych 'studio natur,
Mesur troion ser y nen.