Tudalen:Salm i Famon a Marwnad Grey.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Aml ryw deml i'r duwiau hyn,
Temlau, delwau adfeilynt;
Ac un waedd ddwys, ddwys, ddiseml,
Yrrid i'r duw o'i aur deml;
Sef oedd hon, "Moes feddiannau,—rho rwysg,
Rho oresgyn llwythau;
Dinasoedd, tiroedd, tyrau—
O Dduw, am lwydd i'w hamlhau!"

Ennill o hyd, ennill oedd
Hen anian y brenhinoedd;
Un duw, ac un dyhewyd,
Henwyr beilch—meddiannu'r byd.

I enwau duwiau dieithr
Ffrydia mawl hoff o'r deml, eithr
Nid yw hyn ddim ond enwi—
Tu ôl i'r teitl yr wyt ti.

Am ennyd awr, Famon, dos
Heibio i ael wemp Olympos;
Duwiesau sydd a Zeus hên
Yma'n llu mwyn a llawen:
Nosau a gwleddau, O'r glod!
Duwiau odiaeth eu duwdod.

Pa gred onest a estyn
Goreugwyr Groeg i'r rhai hyn?
Cred fod ced i'r rhai a'u câr,
Da dduwiau cnwd y ddaear;