Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Salm i Famon a Marwnad Grey.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

III.

Dy gymydog," eb Nebun,
"Geri fel tydi dy hun."
Breuddwydwr a bardd ydoedd,
A rhyw wyllt ddychmygwr oedd,
Ar fyr, "anymarferol"—
Nid un hawdd rhodio'n ei ôl.

Ond am efengyl Mamon,
Mor hollol wahanol hon!
Mor fawr, mor "ymarferol";
Nid an—hawdd rhodio'n ei hôl.

"Pawb ei siawns" gysurlawn sydd
Ddigrifiaith ei hardd grefydd:
O chei fantais, ti dreisi;
Os methi, trengi—wyt rydd!

"Trecha' treisied,
"Gwanna' gwaedded," gain egwyddor;
Ni ddaw iti,
Oni threisi, aur na thrysor.

Rhyddid i bawb a rodier—yw rheol
Ei athrawon tyner;
Yn eu cain iaith datganer
Y ddilys ffydd—laissez faire!

Rhodder i eiddo ryddid—i elwa
Lle gwŷl angenoctid;
Ac i'r tlawd, O, pob siawns bid—
Iawnach, callach nis gellid.