Tudalen:Salm i Famon a Marwnad Grey.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yn wr tlawd gyda'r tlodion,
Ar ei hynt trwy'r ddaear hon,
I ddwyn newyddion iddynt.
O obaith gwell i'w bath gynt,—
Erbyn hyn, i'r rhai hynny,
Wele nid oes le'n ei dŷ.

Y frwydr fawr i'w dir Ef aeth,
A chefaist oruchafiaeth!
Wele un o'i ganlynwyr,
Un o'r deuddeg, wiwdeg wŷr,
Yn dyfod i'w draddodi,
O fawr chwant dy ariant di:
Fe'i gwerthodd er rhodd o'r rhain,
Rhyw hygar ddeg ar hugain!

Ti enillaist yn hollol,
A'i wyrda Ef aeth ar d'ôl.
Onid dinod bysgodwyr
A rifai Ef yn brif wŷr?
Rhoddaist o'th drysor iddynt
Radau gwell na'u rhwydi gynt;
A phrifiodd, drwy dy roddiad,
Y rheini'n arglwyddi gwlad;
Yn y Senedd eisteddant,
A thrawster noeth a rhwystr wnânt,—
Dilynwyr pysgodwyr gynt,
Goludog lywiau ydynt.

Gwir, rhaid i gurad gwirion—fyw'n o fain
Ei fyd, ar ryw loffion;
Ond hynny sydd (tawn a sôn!)—er amlhau
Braisg wobr o sgubau i'r esgobion.