Tudalen:Seren Tan Gwmwl.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y bobl a fo yn cadw gweithwyr yn cadw un neu ddau o'u plant hwy, i wneuthur swyddau, ac i ddysgu trin tir; ond pan fo'r ymborth yn ddrud, a'r trethi yn drymion ni cheidw neb ond can lleied. o deulu ag a fedrant, oherwydd hynny mae plant pobl dlodion yn cael eu troi allan i gerdded y wlad, i ddysgu segura, a direidi, yn lle gwaith a gorchwyl. Yn Llundain ni fyddai mo'r un o gant yn gadael eu gwragedd, ac yn torri amodau â'u cariadau, yn gwneud hynny ped faent yn gweled rhyw ffordd onest i allu byw. Pan fyddo deuddyn wedi priodi yn cymryd ystafell i fyw ynddi, rhaid iddynt roi pris digydwybod am yr ystafell fechan, a honno ym mhen tŷ, a'r gŵr a fo'n gosod yn dweud fod ei rent neu ei ardreth ef yn weddol, ond fod y trethi yn fwy o lawer na'r ardreth, ac fod yn rhaid iddo ef wneuthur ei arian allan o'i letywyr; ac nid ydyw un ystafell fechan ond lle go fain i fagu pedwar neu bump o blant, ac heb ddim lle iddynt allan heb fod tan draed, neu ar ffordd rhywun. Wrth fyfyrio ar hynny, a llawer o bethau eraill o'r fath, mae ar lawer o bobl yn Llundain ofn priodi; ac nid heb achos; er bod cymaint cariad rhwng dyn a dynes ag oedd rhwng Dafydd ap Gwilym a Morfudd, gwagedd iddynt briodi i ddyfod â'u hunain a'u plant i dlodi a llymdra; a hynny sydd yn peri iddynt dorri amodau â'i gilydd, ac wrth hynny yn rhwystro hapusrwydd ei gilydd tros byth.

Bellach, mae'n eglur mai trethi ydyw'r achos mwyaf o fod heolydd Llundain mor lawn o buteiniaid, a phlwyfydd Cymru mor lawn o dlodion; ond er cymaint ydyw'r caethder a'r caledi ymhob congl o'r wlad, gwell ydyw dioddef a chwyno am ryddid na chodi yn fyddin yn erbyn y llywodraeth er bod yn gyfreithlon i ryw nifer o