Tudalen:Storïau Mawr y Byd.djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

VIII-BEOWLFF

Un o arwyr cynnar cenedl y Saeson yw Beowlff. Ysgrifennwyd ei hanes i lawr mewn darn hir o farddoniaeth tua'r flwyddyn saith cant, hynny yw, tua deuddeg cant o flynyddoedd yn ôl, ond y mae'r chwedl yn hŷn o lawer na hynny. Perthyn stori Beowlff i'r oes cyn i'r Saeson ddyfod trosodd i'r wlad hon o gwbl, i'r cyfnod pan oeddynt yn byw ar y Cyfandir ger glannau Môr y Gogledd. Bywyd a digwyddiadau a syniadau'r oes bell honno a geir ynddi.

Yng nghyfnod y chwedl yr oedd gan Ddenmarc frenin nerthol a galluog o'r enw Hrothgar, milwr beiddgar a arweiniai ei fyddin i fuddugoliaeth bob tro. Enillodd hwn y fath enwogrwydd a chyfoeth fel y cyrchai rhyfelwyr dewraf pob gwlad i'w lys.

Wedi rhai blynyddoedd penderfynodd Hrothgar godi neuadd fawr, lle i gannoedd o'i filwyr wledda a'u difyrru eu hunain. Aeth llu o weithwyr ati i'w hadeiladu, a chyn hir safai'r muriau uchel, mawreddog, yn gadarn, a gwelid o bell ei phinaclau yn yr awyr fel cyrn rhyw garw anferth. "Y Carw" neu "Yr Hydd" a roes Hrothgar yn enw arni, a phob hwyrnos casglai'r milwyr iddi â balchter yn eu calonnau. Yr oedd yn anrhydedd perthyn i frenin a fedrai godi neuadd fel hon, ac yn y wledd canai'r telynorion am fawredd