er nad oedd neb ynddi, lledodd yr hwyliau yn yr awel a buan yr oeddwn o olwg tir.
"Glaniais ymhen dyddiau wrth droed castell, ac â'm cleddyf yn fy llaw dringais y grisiau at y porth yng ngolau'r lloer. Gwyliai dau lew mawr y porth, a phan oeddwn ar fedr rhuthro arnynt, dyma lais yn galw arnaf: 'Lawnslot, nid trwy nerth ond trwy ddaioni deui i mewn i'r castell hwn.' Syrthiodd fy nghleddyf o'm llaw, a rhoddais ef yn y wain mewn cywilydd. Euthum drwy'r porth heb i un o'r llewod fy mygythio, ac yn y castell yr oedd pob drws yn agored. Deuthum i'r neuadd, ac yn ei phen draw yr oedd drws caeëdig. Er imi wthio â'm holl nerth, nid agorai hwnnw. O'r ystafell deuai llais swynol yn canu salm, a gwyddwn, rywfodd, fod Saint Greal drwy'r drws hwnnw.
"Syrthiais ar fy ngliniau a gweddïais am un olwg ar y llestr santaidd. Agorodd y drws, ac o'r ystafell tywynnai'r golau disgleiriaf a welswm erioed. Codais gan feddwl mynd i mewn, ond ni fedrwn symud cam. Yn yr ystafell gwelwn fwrdd arian, ac arno, mewn gorchudd o bali coch, yr oedd Saint Greal. Mewn llawenydd neidiais dros y trothwy, ond rhyngof â Saint Greal fflachiodd mellt llachar, a syrthiais i'r llawr mewn llewyg.
"Bûm yn anymwybodol am ddyddiau lawer. Pan ddeuthum ataf fy hun, safai Peles, brenin y castell, wrth fy ngwely, a dywedodd wrthyf, 'Lawnslot, yr wyt yng