"Nid oes ofn arnaf," atebodd Siegfried. "Rho'r tân imi."
Gan ddwyn yn ei law ffagl yn llosgi, aeth yn ei ôl at y gors. Taflodd lwythi o frigau crin iddi, ac yna cyneuodd goelcerth a losgodd y nadroedd a'r llyfaint i gyd. Yn sydyn rhuthrodd y ddraig arno o'r goedwig gerllaw; yr oedd ei rhu fel sŵn taranau, a chwythai wenwyn o'i ffroenau. Syrthiodd y pastwn mawr ar ei phen deirgwaith, ac yna gorweddai'n farw. Llifodd y gwaed allan ohoni, a rhoes Siegfried ei fys ynddo. Teimlai groen ei fys yn troi'n galed fel haearn. Tynnodd ei wisg oddi amdano a throchi ei holl gorff yng ngwaed y ddraig, nes bod ei groen i gyd yn ddigon caled i wrthsefyll unrhyw gleddyf. Ei groen i gyd? Na, yr oedd un man na chaledwyd mohono; heb yn wybod iddo, glynodd deilen fach ar ei gefn rhwng ei ddwy ysgwydd, ac nid aeth y gwaed ar y man hwnnw.
Wedi cyrraedd yn ôl i'r efail taflodd Siegfried ben y draig wrth draed Mimer, a chymerai'r gof arno ei fod yn falch o'r orchest. Gwyddai Siegfried am y twyll yng nghalon Mimer, a thrawodd ef yn gelain â'r pastwn. Yna, wedi treulio dydd yn gwneud cleddyf iddo'i hun, dychwelodd i lys ei dad, y brenin Siegmund.
Arhosodd Siegfried yn y llys am rai blynyddoedd yn dysgu trin y cledd a chymryd rhan mewn llawer twrneimant. Rhoes y brenin iddo arfau gloyw a gwisg o haearn, a chyn hir cynhaliwyd gwledd i'w gyfarch fel etifedd i'r orsedd, brenin nesaf yr Iseldiroedd. Parhaodd