a syllai Gunther ag edmygedd arno'n agosáu. Edifarhâi'r brenin iddo wrando ar gynllwynion Hagen.
Wedi i'r helwyr oll ddychwelyd, cynhaliwyd gwledd yn y gwersyll, ond nid oedd yno win i'w yfed.
"Pam na ddwg y gweision y gwin i'r bwrdd?" gofynnodd Siegfried.
"Ar Hagen y mae'r bai," atebodd Gunther, "ac nid ar y gweision."
"Credais y byddai'r gwersyll rai milltiroedd i ffwrdd," ebe Hagen, "ac felly aethpwyd â'r gwin yno. Ond y mae cornant o ddŵr pur gerllaw, a geill pwy bynnag a fynn dorri ei syched ynddi."
Wedi bwyta, cerddodd Siegfried ac eraill hyd lethr y bryn tua'r gornant.
"Clywais lawer o sôn,” meddai Hagen, a oedd yn y cwmni, "am gyflymdra'r brenin Siegfried ar ei droed. Tybed a eill fy nghuro i ar redeg at y gornant?"
"Yr wyf yn barod i redeg yn fy ngwisg haearn a dwyn fy nharian a'm gwaywffon a'm bwa," atebodd Siegfried gan wenu.
Tynnodd Hagen a Gunther eu gwisgoedd uchaf oddi amdanynt, a rhedodd y tri tua'r gornant. Cafodd Siegfried y blaen arnynt yn rhwydd, ac eisteddodd i lawr wrth y gornant i'w haros. Rhoes yntau ei wisg ryfel a'i arfau o'r neilltu, ac yna disgwyl i'r brenin Gunther gael yfed yn gyntaf. Safodd Hagen yn llechwraidd y tu ôl iddo, gan syllu ar y groes fach a wnïwyd ag edau goch ar ei gefn. Yn ddistaw bach