Dechreuodd Odyseus feddwl am ffordd i ddianc, ac ar lawr yr ogof gwelodd bren mawr olewydd a'i ganghennau wedi eu torri i ffwrdd. Pastwn Polyffemus oedd, ond prin y gallai ugain o ddynion cyffredin ei symud. Yr oedd mor hir â hwylbren llong. Torrodd Odyseus ddarn ryw chwe throedfedd o hyd i ffwrdd a naddodd ei flaen yn finiog, gan ei roi, wedyn, yn y tân i galedu. Yna cuddiwyd y pren o dan wair yr ogof a dewiswyd pedwar o wŷr i afael gydag Odyseus ynddo pan ddôi'r cyfle.
Gyda'r nos clywsant eto sŵn traed y cawr yn ysgwyd y ddaear. Daeth i mewn i'r ogof, gan yrru ei braidd o'i flaen, ac ar ôl godro'r geifr, bwytaodd ddau arall o'r Groegiaid i'w swper. Yna mentrodd Odyseus ato, gan gynnig iddo beth o'r gwin a ddug gydag ef o'r llong. Yfodd Polyffemus y gwin melys â blas.
"Rho ychwaneg imi," meddai, "a minnau a roddaf anrheg i tithau."
Deirgwaith yr yfodd, ac yr oedd y gwin yn ei feddwi.
"Ni chefais erioed win fel hwn," meddai. "Beth yw dy enw di?"
"Neb yw f'enw i," meddai Odyseus. "Neb y gelwir fi gan bawb."
"Yna bwytâf Neb yn olaf o bawb," ebe'r cawr. "Dyna'r ffafr a roddaf iti."
O dan ddylanwad y gwin syrthiodd Polyffemus i gysgu'n drwm, gan chwyrnu dros y lle. Cydiodd y Groegiaid yn y pren, gan roi ei flaen yn y tân nes llosgi