"Beth, ynteu?" gofynnodd iddi.
"Cymer yr ennaint hwn," ebe Medea, "ac ira dy holl gorff a'th arfau ag ef. Ni'th glwyfir wedyn gan arf na gwenwyn na thân."
Ufuddhaodd Iason, ac wedi gwrando ar eraill o gynghorion Medea, brysiodd i lys y brenin.
"Felly, fe ddaethost?" meddai Aetes. "Credwn y buasit ti a'th gyfeillion wedi dianc mewn ofn ymhell cyn i'r wawr dorri."
"Y mae'r haul yn dringo'r nef," meddai Iason wrtho. "Yr wyf yn barod."
Arweiniodd y brenin ef i faes ag ynddo aradr fawr haearn. Tan y ddaear yn rhywle clywid rhu'r ddau darw. Gadawyd Iason ei hun ar y cae, a chydiodd yn dynn yn ei darian gan roddi ei gleddyf a'i waywffon o'r neilltu. Yn sydyn, â'u sŵn yn ysgwyd y ddaear, rhuthrodd y teirw tuag ato, ac yr oedd y tân o'u ffroenau'n llosgi'r coed a'r gwair yn lludw. Gwthiodd Iason ei darian i'w hwynebau, a phan welodd ei gyfle, cydiodd yng nghorn un ohonynt, ac â thro sydyn hyrddiodd ef ar ei gefn. Tynnodd â'i holl nerth yng nghynffon y llall nes ei gael ar ei liniau wrth ochr y cyntaf. Yna trawodd yr iau haearn ar eu hysgwyddau a rhwymodd hwy wrth yr aradr drom. Gwrandawai gwŷr y llys a chyfeillion Iason mewn dychryn ar ruadau'r teirw, a gwelent hwy'n nogio a chicio'n wyllt. Ond ymlaen yr âi'r aradr drwy'r maes gan dorri cwys ar ôl cwys yn y tir. Erbyn canol dydd yr oedd y maes