fi y llwyddodd Iason heddiw. Yn awr, Iason, tyrd ar frys, a mi a'th arweiniaf at y Cnu Aur. Gwnewch chwithau'r llong yn barod i hwylio ar unwaith."
Gefn nos dilynodd Iason Fedea drwy wyll y goedwig hyd lwybrau y methai pelydrau'r lloer dreiddio atynt. Ymhen ysbaid cydiodd Medea'n dynn yn ei fraich.
"Edrych," meddai mewn islais.
Ar bren heb fod nepell i ffwrdd gwelai Iason ogoniant euraid y Cnu Aur, a'i harddwch fel harddwch y machlud ym Mai. Rhoes gam eiddgar ymlaen, ond yna syrthiodd ei lygaid ar y sarff wenwynig, a'i chorff hir, llachar, yn nyddu o amgylch y pren.
"Aros di yma," sisialodd Medea, a dechreuodd ganu'n isel gan agosáu'n araf at y sarff a'i swyno â'i llais pêr. Gan ddal i ganu, irodd Medea lygad y sarff ag olew o fêl a llysiau prin, ac ymhen encyd syrthiodd yr anghenfil i gysgu. Aeth Iason ymlaen yn llechwraidd a chamodd dros y corff gloyw. Yna cydiodd yn y Cnu Aur, a rhuthrodd y ddau ymaith drwy'r goedwig at y llong.
Crogwyd y Cnu Aur ar hwylbren yr Argo, ac ymaith â'r llong fel march yn rhusio. Canai Orffeus gân newydd ar ei delyn, a gwrandawai Iason a Medea arno gan syllu'n dyner ym myw llygaid ei gilydd.
Yr oedd taith hir ac enbyd o'u blaen, a niwl ac ystormydd a pheryglon yn eu haros. Ond stori hir arall yw honno.