Tudalen:Storïau Mawr y Byd.djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

roddwyd eu ceffylau yn yr un ystabl, ac ni chysgodd eu dau was wrth yr un tân.

Y pedwerydd dydd bu'r brwydro'n chwyrn a thanbaid, mor ffyrnig nes torri o'r ceffylau eu tresi yn y gwersyll gerllaw wrth glywed sŵn aruthr cleddyf a tharian. Syllai'r fyddin mewn ofn a syndod ar y ddau arwr, ac yna, ar ôl ymladd hir, gwelsant Fferdia'n syrthio i'r llawr.

Rhedodd Cuchulain ato a chododd ei hen gyfaill yn ei freichiau, gan ei gario dros yr afon er mwyn iddo gael marw ar ddaear Ulster. Uwch ei ben wylodd yn chwerw.

"Fferdia, fy nghyfaill hoff," meddai, "bydd dy farw di fel cwmwl du yn hongian byth uwch fy llwybr. Doe yr oeddit mor gadarn â'r mynydd acw; heddiw yr wyt yn llai na chysgod. Byr a thrist fydd fy mywyd innau'n awr."

Penderfynodd brenhines Iwerddon ddial ar Guchulain am ladd ei milwyr gorau a chadw ei byddin rhag lladrata yn Ulster. Aeth at frodyr a chyfeillion y gwŷr a laddwyd gan eu cynhyfru a'u cyffroi. Am yr ail waith casglwyd byddin fawr i gau amdano, a chan fod melltith un o'r duwiesau yn cadw milwyr Ulster yn wan a chysglyd yn Emain Macha nid oedd ond Cuchulain ei hun i herio'r gelynion. Wedi ffarwelio'n dyner ag Emer, ei wraig, rhuthrodd allan yn ei gerbyd rhyfel. Ar y ffordd cyfarfu â thair hen wrach a llygad chwith pob un yn ddall. Rhoesant iddo gig i'w fwyta, ond