Gwirwyd y dudalen hon
17. Yr oedd yn rhaid cael llawer o arian i dalu am hwn. Aeth Hugh Owen i bob man trwy Gymru i gasglu'r arian.
18. Yr oedd pawb yn rhoi iddo,—un yn rhoi ceiniog, un arall swllt, un arall bunt. Yr oedd yn ddiolchgar am bob rhodd.
19. Nid iddo'i hun yr oedd yn eu casglu, ond er mwyn y plant a ddeuai ar ei ôl.
20. Am ei fod yn gweithio mor galed er mwyn eraill yr oedd pobl yn barod i'w helpu.
21. Yr oedd llawenydd mawr trwy Gymru pan agorwyd Coleg Aberystwyth yn 1873.
22. Erbyn hyn y mae tri choleg arall gan y Brifysgol yng Nghymru,—un ym