Gwirwyd y dudalen hon
26.
Daniel Owen.
Nofelydd i Gymru.
1. Magodd Cymru ar hyd yr oesau lu o ddynion mawr mewn llawer cylch.
2. Bu llawer ohonynt yn ymladd dros ryddid, y naill â'r cleddyf a'r llall â'r pin ysgrifennu. Treuliodd llawer eu holl fywyd i geisio codi eu cyd-genedl.
3. Bu yma lawer o feirdd o amser Dafydd ap Gwilym a chyn hynny hyd ein dyddiau ni.
4. Bu yma eraill yn ysgrifennu llyfrau ar lawer pwnc er mwyn dysgu a goleuo'r bobl.
5. Mewn un math o ysgrifenwyr bu Cymru'n brinnach na'r rhan fwyaf