Tudalen:Storïau o Hanes Cymru cyf I.djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

6. Yr oedd arno ofn codi'r Cymry'n ei erbyn. Clywsai mor ddewr oeddynt ac mor hoff o'u gwlad.

7. Er mwyn cadw y Cymry rhag dyfod i Loegr, cafodd y Normaniaid dir ar y ffin rhwng y ddwy wlad.

8. Yna cododd pob Norman gastell mawr, a chadw yno haid o filwyr, er mwyn peri ofn ar y Cymry.

9. Ar y pryd hwn yr oedd gwŷr mawr y Cymry'n ymladd â'i gilydd o hyd. Aeth un ohonynt at Norman i ofyn am ei help.

10. Dyna dro gwael! Cymro yn gofyn am help estron i ymladd yn erbyn Cymro! Daeth gofid mawr i Gymru am hyn.

11. Gwelodd y Normaniaid fod Cymru'n wlad dda. Byddai'n hawdd