Tudalen:Storïau o Hanes Cymru cyf I.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

9.
Llywelyn, ein Llyw Olaf.
"Gwell Angau na Chywilydd."

1. Yr oedd y Cymry yma o flaen y Rhufeiniaid, o flaen y Saeson, o flaen y Normaniaid.

2. Er iddynt ymladd yn galed, gyrrwyd hwy, o gam i gam, o flaen y gelyn, i gwr pell o'r Ynys, i Gymru.

3. Cadw y rhan hon o'r wlad iddynt eu hunain oedd eu hamcan mwy. Er mwyn hynny y brwydrodd eu dewrion oes ar ôl oes.

4. Rhai o'r un gwaed â hwy oedd eu Tywysogion. Ni fynnent estron i lywodraethu arnynt.

5. Ond yr oedd un bai amlwg ar y Cymry erioed; yr oeddynt yn rhy