Tudalen:Storïau o Hanes Cymru cyf I.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hwnnw air o Gymraeg, ond deallodd yn fuan mai William Morgan oedd y dyn at y gwaith pwysig.

17. Gofynnodd iddo ddyfod i fyw i'w blas ef yn Llundain, a chael ei holl amser i ysgrifennu.

18. Yn 1588 yr oedd y gwaith mawr yn barod. Yr oedd gan Gymru ei Beibl!

19. Am ei waith pwysig cafodd y Ficer William Morgan ei wneud yn Esgob Llanelwy. Y mae "Yr Esgob Morgan" yn enw cyfarwydd yng Nghymru o'r pryd hwnnw hyd yn awr.

20. Cael y Beibl yn eu hiaith eu hunain oedd y rhodd fwyaf a gafodd y Cymry gan neb erioed.

21. Daethant gydag amser i fyw bywyd gwell. Daethant i wybod mwy. Daethant hefyd i siarad gwell Cymraeg.