Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Storïau o Hanes Cymru cyf I.djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

11. Dysgodd hwy cystal fel y daethant yn fuan iawn i fedru darllen y Beibl.

12. "Yn awr," ebe Griffith Jones, "rhaid i chwi sydd wedi dysgu ychydig ein helpu ni i ddysgu eraill."

13. Gwnaethant hynny gyda phleser. Aeth un i'r fferm hon ac un arall i'r fferm arall yn athro.

14. Pan fyddai pobl un ardal wedi dysgu tipyn, âi'r athrawon ymlaen i ardal arall.

15. Fel hyn dysgodd miloedd o bobl, hen ac ieuainc, ddarllen ac ysgrifennu.

16. Ar yr un pryd, gan mai'r Beibl oedd eu llyfr darllen, daethant i wybod ei wersi ac i fyw'n well.

17. Yr oedd pobl yn falch iawn pan ddeuai athro i'w hardal hwy. Ysgol