Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Storïau o Hanes Cymru cyf I.djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

5. Wedi bod yn yr ysgol yn Llanddowror, ac yn y coleg yn Rhydychen, penderfynodd Charles mai rhoddi addysg i'r bobl oedd ei waith mawr yntau i fod.

6. Nid ail-agor ysgolion Griffith Jones a wnaeth; yr oedd y rhai hynny wedi eu cau am byth. Sefydlodd ysgolion eraill tebyg iddynt.

7. Nid oedd digon o arian ganddo i gynnal yr ysgolion ei hun. Gorfu iddo fynd ar hyd y wlad i gasglu arian at y gwaith.

8. Yr oedd llawer o bobl fawr yn credu nad oedd eisiau rhoddi addysg i bobl gyffredin. Gwnaethant lawer i rwystro'r gwaith.

9. Gwelodd Charles yn fuan y gallai pobl o bob oed ddyfod at ei gilydd ar y