Tudalen:Storïau o Hanes Cymru cyf I.djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ef waith pwysicach i'w wneud yn y byd.

5. Ei awydd mawr oedd mynd ar hyd y wlad, fel y gwnâi Hywel Harris, i bregethu a dysgu pobl sut i fyw.

6. Daeth yn bregethwr ac yn fardd hefyd. Nid pob bardd a fedr wneud emyn. Gwneud emynau oedd hoff waith Williams.

7. Daeth pobl yn hoff iawn o'i emynau. Yr oedd pawb trwy'r wlad yn eu canu. Bu hynny'n help mawr i bobl fyw'n iawn a gwneud y gorau o'u bywyd.

8. Er bod yn agos i ddau can mlynedd er pan fu farw Williams, nid oes neb wedi gallu gwneud cystal emynau â'i emynau ef, a chenir hwy o hyd.