Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pitar. I gyfarfod rhyw amgylchiad, fe fenthyciodd y nhad ddeugen punt gan f'ewyrth, ac fe addawodd eu talu yn ol yn ddiffael ar yr ugein fed o fis Tachwedd, sef y dydd o flaen diwrnod rhent y Llwybr Main. Yr oedd ar f'ewyrth eu heisieu yn bendant i gyfarfod y rhent, ac yr oedd y cigydd a brynai ddefaid y nhad wedi addaw yn sicr dalu haner cant o bunau i ni bythefnos cyn y byddai y deugain punt yn angenrheidiol. Ond er addaw, ni ddaeth y cigydd yn mlaen yn ol ei air, a bu raid i nhad egluro ei sefyllfa iddo a gwasgu arno, ac addawodd yntau ar ei wir y cai yr arian yn brydlon. Yr oedd yn auaf cynar y flwyddyn hono, a'r eira a'r rhew ar y ddaear er's dyddiau. Yr ugeinfed o Dachwedd a ddaeth a'r cigydd heb ddangos ei wyneb, ac yr oedd y nhad wedi darn wirioni wrth feddwl am yr helynt a achosai i F'ewyrth Pitar. Ond dwedai fy mam y byddai y cigydd yn sicr o ddod, ac am i ni gymeryd amynedd. Aeth yn brydnawn a'r cigydd heb ddyfod, a phrotestiai nhad na chai byth ddafad ganddo mwyach. Ond tua thri o'r gloch cyrhaeddodd y cigydd a thalodd yr haner can punt. Erbyn hyn yr oedd y nhail ar y drain wrth feddwl am bryder Fewyrth Pitar, a chynygiais