Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/156

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

praffaf y ffon yn llaw y wybodaeth, sef Bellis. Y diwedd fu i'r bartneriaeth gael ei thori ac i Mr. Jones gael ei hun yn salach allan o rai canoedd o bunau na'r amser pryd nad oedd ganddo ond y wraig yn unig yn bartnar. Bu raid i'r bechgyn droi i'r byd i enill eu bywioliaeth, a gallwn adrodd wrthyt am yr ymdrech galed a fu arnynt; ond yr oedd Duw gyda'r bechgyn. Erbyn hyn yr oedd Bellis yntau wedi priodi, a'r peth cyntaf a wnaeth wedi tori ei gysylltiad a Mr. Jones oedd prynu melin fawr, a daeth yn fuan yn fasnachwr enwog, ac nid yn unig hyny, ond yn ŵr enwog yn yr enwad y perthynai iddo. Casglodd hylldod o arian a magodd blant gan eu gosod mewn sefyllfaoedd parchus. Ond bu Jones a Bellis farw, ac yr oedd arogl esmwyth ar ddydd claddedigaeth un o honynt, a thipyn o arddangosiad ar ddydd claddedigaeth y llall. Ond pa le y mae eu hepil erbyn hyn? Er fod epil Bellis ar un adeg yn berwi mewn arian, y maent hwy a'u cyfoeth wedi darfod o'r tir, a rhai o honynt yn gorwedd yn medd y meddwyn. Ond am linach teulu y Wern — hil hepil, yr oedd Rhagluniaeth yn diferu brasder ar eu llwybrau a phobpeth a wnelent yn llwyddo. Y mae y rhai sydd o honynt yn gorphwys oddiwrth eu