Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/160

Oddi ar Wicidestun
Nid oes angen prawfddarllen y dudalen hon

Gwrthrych tosturi yw yr hwn sydd heb ddarllen

NOFELAU DANIEL,OWEN

ac y mae'r sawl a all fodloni ar Fenthyca llyfrau o'r fath yn wrthych rhywbeth nad yw tosturi yn air priodol amdano."

— Anthropos.

RHYS LEWIS: 432 td. Lliain, 5s.

Yn y llyfr hwn deuir i gyfathrach â Mari Lewis, unplyg a gonest ; Wil Bryan y bachgen deallus, ysmala, a'r digrifa a fu erioed ; a Tomos Bartley ddoniol a diniwed. Y mae Wil Bryan gyda'i natur dda, ei ddealltwriaeth cyflym, ei ysmaldod a'i ddireidi diderfyn yn goleuo'r nofel drwyddi.

ENOC HUWS: 348 td. Lliain. 5S.

Ymysg cymeriadau y llyfr hwn ceir Capten Trefor, y darlun perffeithiaf, yn ddios, fel darlun, o holl ddarluniau Daniel Owen ; ceir cyfarfod hefyd â Tomos Bartley, ac un "siampal" o ddigrif ydyw ef o'i gychwyn i'w ddiwedd. Anodd cael dim mwy smala na'r bennod ar Marged o flaen ei gwell.

GWEN TOMOS: 352 td. Lliain. 5s.

Yn hon ceir Nansi'r Nant, — un o ddarluniau gorau Daniel Owen,— Twm Nansi, ddireidus ; Mr. Brown y Person. Y mae hanes Robert Wyn yn shafìo mor ddoniol a dim ysgrifennwyd yn yr iaith, a'r nofel drwyddi yn Uawn o fîraethineb a donioldeb.

Y DREFLAN : 232 td. Lliain. 3s. 6ch.

Ym marn rhai o'r beirniaid, Y Dreflan yw nofel orau Daniel Owen. Dywed un, — " Nid oes yn ein Uenyddiaeth ddarluniau hafal i John Aelod Jones, Ismael, Jim, Becca Prys, a Peter Pugh."

STRAEON Y PENTAN : Papur, 1s. 6ch.

19 o Straeon byrion difyrrus dros ben. " Os oes rhywun yn cael ei flino gan bruddglwyf diachos, prynned a darUened y llyfr hwn."

Y DREFLAN A STRAEON Y PENTAN. Yn un gyfrol, Lliain. 5s.

" Y mae holl nofelau Daniel Owen yn lân ac yn chwaethus, ac yn cyforio o ddonioldeb a ffraethineb, Un waith y darllenir hwynt y mae'r cymeriadau diail a bortreadir ynddynt yn gyfeillion oes, ac yn gyfryngau difyrrwch parhaol, Ni raid i neb a gaiîo'r llyfrau hyn dreuUo awr anniddorol."

Yr Herald Cymraeg.

Ar Werth gan Lyfrwerthwyr ymhobman. HUGHES A'I FAB , CYHOEDDWYR . WRECSAM

Gwerthwyd dros 100,000 o'r nofelau digymar hyn, ond darllenwyd hwy gan rai cannoedd filoedd! A elli di fod yn fodlon heh eu meddu?