watches bob rhyw dri munud, er mwyn i bawb ddeall fod genym y fath declyn gwerthfawr. Pan ddaeth y cerbyd i mewn, er mwyn dangos pa mor foneddig oeddym, cymerasom ein heisteddle ar y bocs, wrth ochr y driver, er y gwyddem y byddai raid i ni dipio y gyrwr am y fraint. Yr oedd dyn ar y bocs o'n blaen,—gŵr oddeutu pymtheg ar hugain oed,-llwm a gostyngedig yr olwg. Gwisgai gột lwyd, a chanfyddem fod y gôt a'i pherchenog yn gydnabyddus â'u gilydd er's llawer blwyddyn. Yn ddigon hyfion, gofynasom i wr y gột lwyd newid ei eisteddle er mwyn i ni gael eistedd yn nes at y driver a symudodd yntau yn ufudd heb rwgnach gair. Hen fraddug cydnerth, corffol, oedd y driver. a'i drwyn mor goch nes y tybiem ei fod yn taflu ei wawr ar bobpeth yr elem heibio iddynt. Gwyddem fod y gyrwr yn gryn ymladdwr, a dyna pam yr oeddym mor awyddus am gael eistedd yn nesaf ato,-er mwyn i ni gael clywed am ei orchestion ef ei hun, ac eraill yn yr un line, yn yr hyn ni chawsom ein siomi. Wrth gwrs, ei orchestion ei hun a gawsom ganddo yn gyntaf, ac yr oeddym ninau a'n geneuau yn agored wrth glywed am ei fuddugoliaethau. Yn y dyddiau
Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/24
Gwedd