Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

egluro i Shon mae y goron ysbrydol a olygai. Yr oedd William Bonner yn un o'r rhai cyntaf i gymeryd yr ardystiad dirwestol tua'r flwyddyn 1834 neu '35, a mawr oedd ei sel fel ei frawd Richard. Un tro yr oedd i draddodi darlith ar ddirwest yn Ngwernymynydd, a Thomas Owen, Tŷ'r Capel, y Wyddgrug, i fod yn gadeirydd iddo. Dyn od ryfeddol oedd y Thomas Owen yma, a mi fydd gen i stori i'w dweyd i ti am dano ryw noswaith pan gofia i. Pregethwr methadus oedd o, a mab i Richard Owen, y Bala. Ond yr oedd Thomas Owen er ei fod yn bregethwr ac yn ddyn duwiol iawn, fel pobl yn gyffredin y dyddiau hyny, braidd yn hoff o'i haner peint, cyn i'r symudiad dirwestol gymeryd lle, ac er fod Thomos yn mhlith y rhai cyntaf i ardystio, credai rhywrai ei fod yn cymeryd dropyn ar y slei. Clywsai William Bonner y sibrwd am ei gyfaill, ac wrth ddechreu ei ddarlith ar ddirwest, wedi i'r cadeirydd, sef Thomas Owen, gyflwyno y darlithydd i'r cyfarfod, ebe fe,—

"Gyfeillion, mae rhywrai yn taenu y stori yn y gymdogaeth yma fod ein cadeirydd parchus, Thomos Owen, a'i wraig Marged, yn yfed cwrw o bîg y tebot, ond celwydd mae'n nhw'n ddeyd yn chwilgorn-gafel-eu-gwddw, ynte, Thomos?"