Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn haner cant oed, ond methwyd yn glir a dyfod o hyd i'r receipt angenrheidiol, ac yr oedd trueni Thomas Williams a'r teulu yn fawr arnynt. Trowyd pob peth i fyny yn tŷ, а chwiliwyd yn fanwl bob cilfach a chornel, ond i ddim pwrpas. Methai yr hen wr gysgu na bwyta, ac erbyn y seiat ganlynol yr oedd ei gnawd wedi curio.

Ar ol y gwasanaeth dechreuol yn y seiat cododd John Evans ar ei draed, ac ebe fe:—

"Thomas Williams, ddaethoch chi â'r receipt am y deugain punt gyda chi heno?"

"Naddo," ebe'r hen flaenor. "Yr wyf fi a'r plant wedi chwilio ein goreu amdani, ond hyd yn hyn wedi methu d'od o hyd iddi. Ond yr wyf yn sicr fy mod wedi talu'r arian, ac yr wyf yn meddwl fod yr eglwys yma yn credu fy ngair. Mi âf i'r dref y fory at ferch Owen Jones, ac y mae yn ddiamau fod yna ddangosiad yn hen lyfrau ei thad fy mod wedi talu yr arian. Mae Owen Jones a fy mrawd yn eu beddau, onidê gallasent hwy dystio i wirionedd yr hyn yr wyf yn ei ddyweyd."

"Yr wyf wedi bod yn y dref o'ch blaen," ebe John Evans, "ac nid oes yn mhapurau Owen Jones ddim dangosiad eich bod wedi talu, ac nid