Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Hoes, Mistar Hifans," ebe Cwil, "ond gwelsoch chi rioed ffasiwn trafferth ces i i cael nhw. Mi treies un giar efo celiog ene am wsnose, a nae'r dau dim byd a'u gilydd; ond mi rois giar arall efo'r celiog, a mi ces adar bach toc, a ma hyny yn digon o profedigeth ma nid ar y celiog rodd y bai."

"Diar anwyl galon!" ebe Enoc.

"Enoc Evans, mae hi'n amser myn'd i'r capel," ebe Angel yn y drws; a thorwyd ar seiat y ddau hen gono.

Nid cynt yr oedd yr oedfa drosodd nag y brasgamodd Enoc o flaen Angel i'r Castle Street. Pan ddaeth Angel i'r tŷ cafodd fod Nancy wedi gwneud y super yn barod, ond nid oedd dim son am Enoc Evans. Dyfalodd Angel yn mha le yr oedd yr hen bregethwr, ac ymaith ag ef i dy Cwil Jones, a chafodd y ddau drachefn mewn dîp disgwrs am yr adar. "William Jones," meddai Enoc, "beth ydi'r achos nad ydach chi ddim yn cadw dim ond y canaries a'r nicos yma? Ydach chi ddim yn hoff o adar eraill?"

"Hydw, Mistar Hifans," ebe Cwil, "yr hydw i'n hoff o pob sort o hadar. Ond mi gwelwch bod y tŷ dipyn yn bwchan, a mae deryn