Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/7

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

AT Y DARLLENYDD

Mae amryw o'r straeon hyn wedi ymddangos eisoes mewn gwahanol gylchgronau, a'r lleill yn ymddangos yn awr am y tro cyntaf. O herwydd fy mod wedi cyhoeddi amryw nofelau, hwyrach y dylwn ddweud mai straeon gwir ydyw y rhai hyn. Gosodais yr hanesion yn ngenau F'ewyrth Edward, er mwyn ysgafnhau yr arddull a'u gwneud yn fwy darllenadwy i bawb. Mi a wn yn burion fod y stori am Twm Cynah yn cael ei hadrodd am Bendigo, Tom Spring ac eraill. Am a wn i, y mae gan Twm Cynah gystal hawl iddi a neb arall. Mi gredaf y caiff y llyfr y derbyniad a haedda — beth bynag fydd hyny. Nid llawer o lyfrau cyffelyb i Straeon y Pentan sydd yn Gymraeg, o leiaf, ni wn i ond am ychydig, ac os bydd ei ymddangosiad yn gymhelliad i rywrai eraill i wneud casgliad gwell o straeon sydd yn berffaith wir, bydd un amcan da wedi ei gyrhaeddyd. wyrach y bydd ambell frawd go solet yn tynu cuchiau uwchben rhai o'r tudalenau, ac yn