Tudalen:Straeon y pentan.pdf/102

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ond yr oedd ei droed anafus yn ei rwystro i notio ond yn anhwylus iawn. Daeth pen Hugh i'r golwg, ac aeth o'r golwg drachefn, ac felly ddwywaith neu dair, tra yr oedd Sam druan yn ymdrechu ei oreu i fyn'd ato. Collasant olwg ar y ci a'r bachgen, a dechreuodd Mrs. Burgess rwygo ei dillad, heb wybod beth oedd yn wneyd. Ond yn y funud gwelent ben Sam uwchlaw wyneb y dwfr, ac yr oedd yn cyfeirio at y lan, ac fel pe buasai yn llusgo rhywbeth ar ei ol, ac yn ymddangos yn union yr un fath â phan fyddai er's talwm yn llusgo'r fen — ei ben i fyny, ac yn ysgwyd ei glustiau i ymlid y pryfaid ymaith. Daeth yn fuan yn ddigon agos at Burgess iddo weled fod ganddo rywbeth rhwng ei ddannedd, — siaced Hugh ydoedd, ïe, ac yr oedd Hugh yn cael ei lusgo i'r lan gan Sam. Wedi cael y bachgen ar dir sych bu yn hir iawn yn dod ato ei hun; ac yr oedd Sam, pe buasai rhywun yn sylwi arno, wedi ysgwyd y dwfr lawer gwaith oddiar ei flew hirion, yn gwylio adferiad Hugh lawn mor bryderus a neb. Ond druan o Sam yn ei henaint, yr oedd wedi gwneyd mwy na'i allu y noson hono. Ni fedrai gerdded gartref. Cyrchwyd handcart o'r ffactri i'w gludo, ond bu Sam farw cyn y bore,