Tudalen:Straeon y pentan.pdf/130

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Bydaswn i'n gwybod dim am dano ond y ffaith yna yn unig, mi fuasai gen i feddwl mawr o hono byth. Bydasai raid i mi farnu cymeriad bachgen drwy ofyn dim ond un cwestiwn iddo, y cwestiwn hwnw fuasai—beth wyt ti'n feddwl o dy fam? 'Doedd Bob, y tymblwr, er's talwm, ddim yn cael ei ystyried yn haner call, ond heb law codi pin oddiar lawr gydag emrynt ei lygad, a champau ereill, fe ddwedai Bob ambell air pur gall. Meddai Bob un diwrnod, — "Os colli dy dad mi gei golled fawr, ond os colli di dy fam mi golli'r cwbwl." Hyd yn nod pan fydd bachgen wedi dirywio yn dost o ran ei gymeriad, os ca'i allan fod o'n meddwl yn uchel am ei fam, mae gen i obaith am dano. A fedri di gân Dafydd Ddu Eryri, — "Fy anwyl fam fy hunan?". Na fedri? Wel, mae gen i ofn fod llawer o fech gen yr oes hon heb wybod am y pethau goreu yn iaith eu mam. Mi genais lawer ar y gân hono er's talwm, a dydw i 'rioed yn cofio ei chanu na lanwai fy llygaid â dagrau, a mi faswn yn ei chanu i ti 'rwan daswn i heb golli fy llais. Mae ambell hen gân dda, mi goelia, fel adnodau'r Beibl, wedi cadw llawer bachgen rhag drwg. Wn i ddim lle buaswn i 'rwan oni bai am gân Dafydd Ddu Eryri.