Tudalen:Straeon y pentan.pdf/154

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mod wedi fy witchio neu fy rhoi yn ffynon Elian. Ebai'r magistrate, —

"Wel, John, mi ddylwn eich rhoi yn jail am dri mis, — dyna ddylech chi gael am adael eich teulu. Ond y mae y plwy wedi cadw digon arnynt, ac os ydach chi'n addaw myn'd adre', ac edrach ar ol eich gwraig a'ch plant, mi gewch fyn'd yn rhydd am y tro hwn. Os na wnewch addaw gneud hyny, rhaid i mi roi tri mis i chi. Beth ydach chi'n ddeud, John?"

Meddyliais y munyd hwnw y gallwn ddianc wedi cael fy nhraed yn rhyddion, ac ebe fi, —

"Wel, mi wnaf fy ngoreu i wneud fel yr yd ach chi'n gofyn, syr."

"Very good," ebai'r magistrate, "ond gofalwch na ddowch chi ddim mlaen i eto, neu nid fel hyn y bydd hi arnoch chi. Mae'n biti garw fod crefftwr da fel chi, John, — un sydd yn dad i blant, ac yn d'od o deulu parchus, — wedi gwneud sôn am danoch fel hyn. Bydded hyn yn wers am byth i chwi, John. Mi ellwch fyn'd 'rwan."

Yr oeddwn wedi fy syfrdanu. Daeth y wraig ataf i ysgwyd llaw, ac estynais inau fy llaw iddi yn llipa ddigon. Yr oedd hi wedi crïo, — o lawenydd, mae'n debyg, — nes oedd yn haner