Tudalen:Straeon y pentan.pdf/159

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn sefyll yn uchel yn syniad eu meistr tir. Aeth blynyddau heibio a ganwyd iddynt amryw blant. Yr oedd Mr. Jones wedi gorfod teimlo lawer gwaith yr anfantais o fod yn ddi-ddysg, a gofalodd roddi yr addysg oreu oedd i'w chael yn y gymydogaeth i'w blant, ac wedi iddynt dyfu i'r oedran cyfaddas, prentisiodd rai o'r bechgyn yn siopwyr. Yr oedd erbyn hyn wedi dyfod yn lled gefnog, pryd, ryw ddiwrnod, y daeth gŵr ifanc golygus ac wedi cael ysgol dda, i'r gymydogaeth fel llifiwr coed. Mi galwaf o yn Mr. Bellis. Nid oedd Bellis ond crefftwr cyffredin yn gweitho am ddeunaw swllt yr wythnos, ond yr oedd yn ddyn medrus a chraffty. Drwy ei fod yn aelod yn yr un capel a Mr. Jones, daeth Bellis a theulu y Wern yn gryn gyfeillion yn fuan. Yn mhen yr hir a'r rhawg, perswadiodd Bellis Mr. Jones i ddechreu ar y busnes coed – fod y wybodaeth ganddo ef, Bellis, a'r arian gan Mr. Jones, a thynodd ddarlun dymunol o'r broffit fawr a ellid wneud yn y busnes. Aeth y ddau yn bartneriaid - un gyda gwybodaeth a'r llall gydag arian. Aeth hyn yn mlaen am flynyddau, heb i mi fanylu, y canlyniad fu fod Jones yn myn'd dlotach dlotach bob dydd, a Bellis yn gyfoethocach. Yn y bartneriaeth yr oedd pen