Tudalen:Straeon y pentan.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd ambell un, mi gredaf, wedi arall eirio, ddwy linell olaf yn yr hen benill adnabyddus, ac yn eu mwmian rhwng cyrn yr arad, ac yn mohobman –

Mi af oddi yma i'r Hafod Lom,
Er fod hi'n drom o siwrne;
O na chawn yno ganu cainc,
Ac eistedd ar fainc y simdde!

Y gwir ydoedd, fod amryw o honom wedi haner dyrysu am Doli, ac nid oedd y ffaith fod ei thad yn gyfoethog, ac mai Doli oedd ei unig epil, yn lleihau dim ar ein clefyd. Frank Price, yı Hendre Fawr, Dafydd Edwards, y saer, a minau oedd yr unig rai a gai fymryn o gefnogaeth gan Doli. Ystyrid teulu yr Hendre yn bobl barchus a lled gefnog, ac yr oeddynt yn Eglwyswyr selog; ac yr oedd Frank yn fachgen digon smart, ond ei fod dipyn yn wyllt a digrefydd Ond mi welais i yn fuan mai Dafydd Edwards, y saer, oedd ffafryn Doli, a mi rois fy nghardiau yn tô, ac yn fwy boddlon am mai Dafydd oedd y dyn, ac nid Frank. Yr oedd Dafydd yn aelod eglwysig, ac yn fachgen crefyddol a da, ac yn hynod olygus. Ond dyna oedd yn rhyfedd, er fod Richard Hughes yn flaenor, mab yr Hendre oedd ei ffafryn ef. Rhoddai bob croesaw i