Tudalen:Straeon y pentan.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hyny yr oedd cryn son am Welsh Jim yn mhlith y light weights, a Thwm Cynah ymhlith yr heavy weights, – y ddau o'r Wyddgrug, fel y gwyddost. Cymro glân oedd Twm, er mae Cynah oedd ei enw."

"Y gwir am dano," ebe y gyrwr, "y mae gormod o lawer yn cael ei wneud o Twm Cynah. Mi faswn yn leicio ei gael i sefyll o mlaen i am ryw ddau funud, er na weles i rioed mo'r dyn. Mi faswn yn dangos iddo fod yna Gymro arall yn y byd."

Synai Wil a minau at wroldeb a gallu y gyrwr. Ni ddywedai y gŵr a'r gột lwyd air o'i ben, ond tybiais weled gwên yn llithro dros ei wynebpryd pan ganmolai y gyrwr ei hun, yr hyn a'm cythruddodd nid ychydig. Wedi i ni flino son am ymladdwyr, fel hogiau drwg a disynwyr, dechreuasom wneud gwawd o bawb yr elem heibio iddynt ar hyd y ffordd, ac ni arbedwyd gŵr y gột lwyd genym. Yn wir cymerasom hyfdra mawr arno, ond dioddefai bobpeth yn dawel a digyffro, yr hyn a barodd i Wil a minau ei flino yn fwy. O'r diwedd cyrhaeddodd y goach fawr fuarth y Crown, Dinbech, lle yr oeddynt yn newid y ceffylau a'r gyrwr hefyd. Wedi i ni ddisgyn o ben y