Tudalen:Straeon y pentan.pdf/55

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

pranweth a deryn du isio cage mawr, a mae nhw tipyn yn budron. Ond faswn i dim yn hidio am hyny dase gen i lle iddyn nhw, Mistar Hifans. A mi deuda i chi peth arall, ma Hangel yn gwbod cystal a mine, roddwn i'n ffond sobor o lark, a rodd gen i un unweth na weles i rioed i sort o. Fi daru fagu o, a rodd o'n cantwr na chlywes i rioed i bath o. A rodd o mor dof fel roddwn i yn i cymyd o weithie i'r siop weithio, ma Hangel yn gwbod. Wel un tro mi cymes o i'r siop weithio, a rodd yno dyn, i enw fo odd George Roberts, rodd o'n canu yn reglws — y cantwr bâs gore clywsoch chi rioed, — ond dodd gynfo dim parch i deryn da. Wel, mi cymeres y deryn i'r siop ydw i'n deud wrthoch chi, Mistar Hifans, a rol i mi fynd ar y bwrdd, mi dalies y lark ar cledyr fy llaw — rodd o mor dof – a mi deudes, dene ti, George, deryn na welest di rioed i sort o. A be daru George neud, heb i mi meddwl, mi cymodd labwt a mi tarodd fi tan fy penelin, a mi ês i llysmer. Pan dois i ata fy hun mi ofynes, lle ma lark fi, George? a mi gweles fy lark wedi marw ar y bwrdd, ar ol hyny mi cymes syrffet at cadw lark."

"Wel, y dyn annuwiol a dideimlad," ebe Enoc. "Beth ddaru chi—?"